LLAFUR YNYS MÔN LABOUR: MANIFFESTO MÔN, 2021-2

ECONOMI A CHYFLOGAETH

GWARCHOD A CHREU SWYDDI

ADDEWID Byddwn yn rhoi prif flaenoriaeth i swyddi, gan dynnu ar gefnogaeth Llywodraeth Lafur Cymru i gynorthwyo busnesau bach a chanolig, twristiaeth a hamdden, yr economi werdd gynyddol, a sectorau eraill.

  • Byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth sy’n cael eu creu gan y diwydiannau ynni gwyrdd cynaliadwy fel rhan o ymdrech Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050.
  • Byddwn yn hyrwyddo datblygiad pellach Ardal Fenter Ynys Môn, a ddylai ddod yn ganolfan rhagoriaeth ar gyfer cynhyrchu, arddangos a gwasanaethu ynni carbon isel.
  • Ein nod yw sicrhau bod swyddi newydd yn cael eu creu yn ein trefi arfordirol o ganlyniad i’r ffermydd gwynt mawr alltraeth sydd wedi’u cynllunio ar gyfer gogledd a gogledd-ddwyrain Ynys Môn.
  • Rydym yn cefnogi’n llwyr hyb hydrogen yng Nghaergybi ond hoffem iddo gael ei gyllido’n well (mae cyllid Llywodraeth y DU ar waelod yr ystod fuddsoddi o
    £4.8–7.3m y mae astudiaeth ddichonolrwydd Menter Môn yn ei hystyried yn hanfodol).
  • Byddwn yn datblygu a hyrwyddo rhagor o gyfleoedd yn M-SParc (Parc Gwyddoniaeth Menai), gan gynnwys yn y sector digidol.
  • Byddwn yn ystyried opsiynau ar gyfer safle Wylfa, ac mae’n rhaid i unrhyw ddefnydd yn y dyfodol ddarparu swyddi lleol
    a bod o fudd i gadwyn gyflenwi yr ynys.
  • Byddwn yn gwneud popeth sy’n bosibl i gefnogi’r sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a digwyddiadau ar yr ynys, sydd wedi cael cymorth drwy’r pandemig gan Gronfa
    Gwytnwch Economaidd Llywodraeth Lafur Cymru.

Trafodir ein barn mewn perthynas â rhai cynigion eraill sy’n cyflwyno cyfleoedd i greu swyddi mewn man arall yn y maniffesto hwn.

GWAITH TEG I YNYS MÔN

ADDEWID Byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor Sir, busnesau lleol, undebau llafur ac eraill i geisio sefydlu Ynys Môn fel ynys Gwaith Teg, lle caiff pob gweithiwr ei dalu’n deg am y swydd.

  • Rydym yn cefnogi ymgyrch TUC Cymru i wneud Cymru yn Genedl Gwaith Teg a mynd i’r afael â’r contractau cyflog isel, dim oriau ac anghydraddoldeb sy’n arbennig o gyffredin yn y sectorau twristiaeth, gofal a masnach Ynys Môn.
  • Byddwn yn gweithio gyda’r Cyngor Sir, busnesau lleol, undebau llafur ac eraill i geisio sefydlu Ynys Môn fel ynys Gwaith Teg, gan annog busnesau i weld buddion gweithlu sydd wedi’i gymell ac sy’n cael ei wobrwyo’n dda.
  • Drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Lafur Cymru, byddwn yn sicrhau bod gan bob corff a sefydliad cyhoeddus ar ein hynys sy’n cael cyllid gan
  • Lywodraeth Cymru bolisïau Gwaith Teg wrth wraidd iddynt.
  • Byddwn yn annog gweithwyr lleol i ymuno ag undebau llafur ac yn galw ar yr undebau hynny i gymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch dyfodol eu gweithleoedd gan fod undebau cryfach yn golygu gweithleoedd mwy diogel, mwy cynhyrchiol.
  • Rydym am i holl weithwyr gofal gael y Cyflog Byw go iawn, a bydd Llafur Cymru yn rhoi hyn ar waith.

PRENTISIAETHAU NEWYDD A CHYFLEOEDD HYFFORDDIANT

ADDEWID Drwy Raglen Prentisiaethau hynod lwyddiannus Llafur Cymru, ein nod yw darparu prentisiaethau i bob unigolyn rhwng 17 a 24 oed sydd eu hangen.

  • Byddwn yn adeiladu ar Raglen Prentisiaethau hynod lwyddiannus Llafur Cymru i gynyddu’r nifer o brentisiaethau sy’n cael eu creu bob blwyddyn ar Ynys Môn, a oedd bron i 700 ar gyfartaledd cyn pandemig COVID.
  • Yn ogystal â phrentisiaethau i bobl ieuengach sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19, rydym yn cefnogi prentisiaethau i bob oedran, yn arbennig mewn sectorau twf ac yn nhrefi sydd wedi dioddef dan gynildeb y Ceidwadwyr, megis Caergybi ac Amlwch.
  • Drwy gamau gweithredu Llywodraeth Lafur Cymru, byddwn yn gwella diogelwch swyddi i brentisiaid ar Ynys Môn.
  • Rydym yn cefnogi rhagor o gyllid i ailhyfforddi gweithwyr yn y diwydiant niwclear, a chefnogir hyn gan Lywodraeth Lafur Cymru.
  • Cefnogwn hyfforddiant a datblygiad sgiliau i weithwyr hunangyflogedig, a byddwn yn ymdrin â hyn mewn adolygiad polisi gan Lafur Cymru.

WYLFA

ADDEWID Credwn fod angen cadw pob opsiwn yn agored ar gyfer y safle ac mae’n rhaid i unrhyw gynnig fod o fudd i’r gymuned leol ac adlewyrchu ein hymrwymiad i ddyfodol sero carbon.

  • Byddwn yn cefnogi prosiectau sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i ddyfodol sero carbon.
  • Bydd angen i ni ystyried opsiynau y tu hwnt i bŵer niwclear, o ystyried methiant y prosiect Horizon a diffyg gallu Llywodraeth y DU i gytuno ar fodel cyllid boddhaol gyda buddsoddwyr / datblygwyr.
  • Rydym am i ddatblygiad y safle yn y dyfodol gyflawni buddion penodol i’r gymuned leol.
  • Byddwn yn lobïo Llywodraeth y DU i gefnogi unrhyw brosiect isadeiledd mawr addas ar y safle.

TAI AC AIL GARTREFI

ADDEWID Rydym yn cefnogi premiwm y dreth gyngor uwch i ail gartrefi ar yr ynys o isafswm o 75% (mewn cymhariaeth â 35% ar hyn o bryd) a byddwn yn adeiladu mwy o dai cyngor o ansawdd ac effeithlon o ran ynni i gynorthwyo teuluoedd ifanc.

  • Hoffem weld cynnydd sylweddol yn y nifer o dai cyngor sy’n cael eu hadeiladu ar yr ynys, ac mae hyn wedi’i wneud yn bosibl gan gamau gweithredu Llywodraeth Lafur Cymru.
  • Rydym am i’r cynnydd hwn yn y cartrefi cyngor sy’n cael eu hadeiladu fod o fudd i fusnesau a chadwynau cyflenwi lleol.
  • Cefnogwn ragor o amddiffyniadau i denantiaid, ac mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi pasio Deddf a fydd yn rhoi’r amddiffyniad gorau yn y DU i denantiaid yng Nghymru, gan gynnwys sefydlogrwydd isafswm contract o 12 mis.
  • Byddwn yn cefnogi estyniad sylweddol i ôl-osod (gwneud newidiadau i dai cyfredol fel y defnyddir llai o ynni a dŵr) ar Ynys Môn drwy Raglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Lafur Cymru.
  • Byddwn yn gwthio am Gynllun Datblygu Lleol y Cyngor i hyrwyddo tai hygyrch addas, sydd â chysylltiadau trafnidiaeth da a gwasanaethau lleol hygyrch i alluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol.
  • Gyda chymorth y Cyngor sydd dan arweiniad Plaid, rydym yn galw i godi premiwm y Dreth Gyngor ar ail gartrefi o 35% i o leiaf 75%.
  • Cefnogwn fonitro llymach i sicrhau nad yw perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu premiwm y Dreth Gyngor drwy newid yn amhriodol i drethi busnes.
  • Rydym yn galw i’r Cyngor ymestyn ei Gynllun ‘Marchnadoedd Tai Lleol’ oddi tano y mae’n rhaid cynnig unedau preswyl newydd i’w gwerthu i bobl leol am 3 mis.
  • Rydym yn ffafrio archwilio’r defnydd o Gynlluniau Bro i’w gwneud yn ofynnol i anheddau preswyl newydd gael eu
    llenwi fel “prif breswylfa” unigolyn, mewn modd cyffelyb i ddefnydd Cynlluniau Cymdogaeth yn rhai trefi Lloegr.

ADDYSG

ADDEWID Byddwn yn adeiladu ar y gwelliannau a gyflawnwyd drwy raglenni Dechrau’n Deg ac Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Lafur Cymru i gyflawni addysg ragorol i bawb.

  • Rydym yn cefnogi Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Lafur Cymru, sydd wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol yn ysgolion newydd ar Ynys Môn, e.e. Ysgol Santes Dwynwen yn Niwbwrch, Ysgol Cybi yng Nghaergybi, ac Ysgol Rhyd y Llan yn Llanfaethlu.
  • Cefnogwn ragor o fynediad at grantiau i ysgolion uwchradd a cholegau i sicrhau bod cwricwlwm eang i fyfyrwyr galwedigaethol ac academaidd.
  • Cefnogwn warant Llywodraeth Lafur Cymru y bydd prydau bwyd ysgol am ddim yn cael eu darparu ym mhob gwyliau ysgol hyd at ac yn cynnwys Pasg 2022.
  • Byddwn yn amddiffyn y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (a gafodd ei sgrapio gan y Ceidwadwyr yn Lloegr) a chynyddu’r swm yn sylweddol i’r myfyrwyr tlotaf.
  • Byddwn yn darparu Cyllid Cymorth Dysgu Ychwanegol fel bod pob disgybl a myfyriwr, gan gynnwys rhai anabl a dysgwyr sydd ag anghenion dysgu, yn parhau i gael mynediad at y gefnogaeth ddynol a thechnegol hanfodol.
  • Byddwn yn darparu cymorth iechyd meddwl gwell yn ysgolion.

IECHYD

MEDDYGON TEULU A DEINTYDDION

ADDEWID Rydym yn cefnogi hyfforddi mwy o feddygon teulu a thechnegwyr deintyddol i hyrwyddo niferoedd lleol ac yn gwneud popeth sy’n bosibl i gyflawni canolfan feddygol newydd i Gaergybi.

  • Diolchwn i holl staff y GIG am eu hymdrechion rhagorol yn ystod y pandemig COVID a hoffwn weld eu cyfraniadau yn cael eu cydnabod gyda chodiad cyflog addas.
  • Byddwn yn gwneud canolfan feddygol newydd yng Nghaergybi yn brif flaenoriaeth.
  • Byddwn yn monitro buddion lleol buddsoddiad trwm Llywodraeth Lafur Cymru yn recriwtio Meddygon Teulu dan hyfforddiant newydd ac os yw’n hanfodol yn trafod unrhyw bryderon gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru.
  • Rydym yn cefnogi cynlluniau hyfforddiant Llywodraeth Lafur Cymru am broffesiwn newydd – Technegwyr Deintyddol – a fydd ar gael i wneud gweithdrefnau syml y GIG megis gwiriadau iechyd a llenwadau bach a chynorthwyo i fynd i’r afael â’r diffyg yn neintyddion y GIG.

BWRDD IECHYD BETSI CADWALADR

  • Croesawn y ffaith bod Betsi Cadwaladr wedi dod o fesurau arbennig a gyflwynwyd yn 2015 a chefnogwn y symudiad i ymyriadau targedig i gyflawni cynnydd pellach mewn perfformiad.
  • Dylai’r ymyriadau targedig hyn gynnwys mesurau i wella gwasanaethau iechyd meddwl.

YSGOLION MEDDYGOL NEWYDD YNG NGOGLEDD CYMRU

  • Croesawn yn gynnes ymrwymiad Llafur Cymru i sefydlu ysgol feddygol newydd yng
    ngogledd Cymru.

NEWID HINSAWDD, YR AMGYLCHEDD AC YNNI ADNEWYDDADWY

NEWID HINSAWDD

ADDEWID Cafodd cynghorwyr Llafur Ynys Môn lwyddiant wrth gyflwyno cynnig argyfwng hinsawdd i Gyngor Ynys Môn a byddwn nawr yn sicrhau bod y Cyngor yn datblygu cynllun gweithredu uchelgeisiol yn gyflym i fodloni ei ymrwymiadau. Byddwn yn cefnogi pob prosiect ynni adnewyddadwy yn gryf oni bai ein bod yn credu eu bod yn dueddol o gael effeithiau annerbyniol ar yr amgylchedd.

  • Byddwn yn sicrhau bod y cynnig argyfwng hinsawdd a gyflwynwyd yn llwyddiannus gan ein cynghorwyr sir Llafur yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer camau gweithredu sydd wirioneddol yn gwneud gwahaniaeth.
  • Byddwn yn gweithredu i sicrhau bod cynllun gweithredu’r Cyngor yn cael ei ddatblygu’n gyflym ac yn ddigon
    uchelgeisiol.
  • Galwn ar Gronfa Pensiwn Gwynedd, y mae CSYM yn cymryd rhan ynddi, i ddilyn esiampl Cyngor Sir Ceredigion a dad-fuddsoddi mewn tanwyddau ffosil cyn pen 2 flynedd.
  • Byddwn yn galw ar y Cyngor Sir i osod targed uchelgeisiol mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy yn y cynllun lleol nesaf.

AMGYLCHEDD GWELL AR YNYS MÔN

  • ADDEWID Byddwn yn cefnogi prosiectau cydweithredol i ddyblu’r ardal coetir ar Ynys Môn, cynyddu’r nifer o warchodfeydd natur lleol a chynyddu mynediad at fannau o natur i’n pobl.
  • Ein nod fydd dyblu’r nifer o goed ar ein hynys, sy’n isel iawn, yn llai na 5%.
  • Byddwn yn cefnogi prosiectau cydweithredol i gyflawni hyn, gan gynnwys cymunedau, ffermwyr, coedwigwyr, cyrff cyhoeddus ac elusennau lleol.
  • Byddwn yn gwarchod safleoedd bywyd gwyllt cyfredol ac yn anelu at wella cysylltedd rhyngddynt.
  • Cefnogwn waith i greu gwarchodfeydd natur lleol newydd a rheolaeth well o ymylon y ffyrdd a pherthi i ddiogelu natur.
  • Byddwn yn gwarchod mynediad cyhoeddus at fannau gwyrdd ac yn anelu at wella arwyddion ar lwybrau cerdded a’u cynnal a chadw, gan wneud yr ardaloedd hyn yn fwy hygyrch i gymunedau lleol.
  • Byddwn yn gwarchod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yr ynys.

YNNI GWYNT A SOLAR

ADDEWID Cefnogwn y defnydd cynyddol o ynni gwynt a solar, ac yn arbennig croesawn brosiectau gwynt alltraeth, sydd â’r potensial i greu nifer sylweddol o swyddi ar ein hynys.

  • Cefnogwn yn gryf y Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr arfaethedig, a fydd â chapasiti mewnosodedig o oddeutu 500 MW ac sy’n cael ei ddatblygu gan RWE Renewables yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn.
  • Cefnogwn yn gryf y prosiectau (capasiti mewnosodedig ar y cyd o 3 GW) a gyhoeddwyd gan Ystad y Goron ar 8 Chwefror eleni, a fydd yn cael eu lleoli i ogledd a gogledd-ddwyrain Ynys Môn.
  • Byddwn yn gwthio i hynny o’r swyddi cysylltiedig â phosibl ddod i Ynys Môn.
  • Credwn fod angen adolygu’r polisi o wrthod bron pob cais am dyrbinau gwynt tua’r tir ar Ynys Môn (gostyngodd y ceisiadau o 15 rhwng 2010 a 2012 i ddim ond 3 rhwng 2013 a 2018).
  • Cefnogwn gynnydd cymharol fach yn yr ynni gwynt tua’r tir ar Ynys Môn, hyd at ddwywaith y capasiti mewnosodedig cyfredol.
  • Rydym yn ystyried y dylai pob cais gwynt tua’r traeth gael ei feirniadu yn ei hawl ei hun, gan gymryd i ystyriaeth yr holl effeithiau niweidiol posibl.
  • Croesawn yn gryf gynlluniau ynni gwynt sy’n cynnwys perchnogaeth gymunedol ar brosiectau.
  • Rydym am i bob datblygiad newydd ar Ynys Môn ymgorffori digonedd o ynni adnewyddadwy i leihau allyriadau carbon o ganran benodol (e.e. 20%) dros y safonau adeiladu cyfredol, ar ôl optimeiddio’r mesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Hoffem weld rhagor o banelau solar ar adeiladau’r cyngor ac ysgolion.
  • Rydym yn ystyried y dylai ceisiadau i ddatblygu ‘ffermydd solar’ gael eu gwerthuso ar
    sail achos wrth achos, gan gymryd i ystyriaeth effeithiau negyddol posibl.

YNNI LLANW

ADDEWID Cefnogwn brosiect ynni llanw Minesto. Bydd ein barn ar y prosiect Morlais yn cymryd i ystyriaeth canlyniad Ymholiad Cyhoeddus.

  • Cefnogwn y prosiect Minesto yn Nyfnder Caergybi ar y sail ei fod yn dechnoleg newydd carbon isel sydd â chymhwysedd eang posibl a bod yr asesiadau effaith yn dangos bod y canlyniadau i famaliaid y môr ac adar môr yn debygol o fod yn isel/dibwys ac ansylweddol.
  • Credwn gan fod Prif Swyddfa Minesto UK yng Nghaergybi, y gallai’r prosiect yn y pendraw
    arwain at gynhyrchu nifer sylweddol o swyddi lleol.
  • Rhannwn bryderon difrifol yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru ynghylch effeithiau posibl y prosiect Morlais ar famaliaid ac adar y môr a’r Ardal Cadwraeth Arbennig yn Ynys Lawd.
  • Felly, byddwn yn aros am ganlyniad Ymholiad Cyhoeddus cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch ein barn ar y prosiect.

CANOLFANNAU TREF

ADDEWID Byddwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod ein hynys yn cael ei rhan deg o gronfa £90
miliwn Llywodraeth Lafur Cymru i weddnewid canol trefi ledled Cymru.

  • Ein nod yw sicrhau bod cronfa £90 miliwn Llywodraeth Lafur Cymru i weddnewid canol
    trefi ledled Cymru o fudd sylweddol i’n trefi.
  • Cefnogwn ddull ‘Canol Trefi yn Gyntaf’ Llywodraeth Lafur Cymru, sy’n golygu bod rhaid
    lleoli gwasanaethau ac adeiladau yng nghanol trefi pryd bynnag mae hynny’n bosibl.
  • Cefnogwn ein Cyngor Sir yn ei waith â Llywodraeth Lafur Cymru i ddarparu benthyciadau di-log i ailddatblygu safleoedd a lleoedd yng nghanol trefi Caergybi, Llangefni ac Amlwch.
  • Cefnogwn fentrau lleol i wella canol trefi, megis yr ymgyrch am ganolfan gymunedol newydd i Borthaethwy.

 

TRAFNIDIAETH GYHOEDDUS A THEITHIO LLESOL

ADDEWID Hoffem weld gwasanaethau bysiau mwy fforddiadwy ac wedi’u cynllunio yn well, yn enwedig ar adegau prysur, a byddwn yn annog yr awdurdod lleol i gymryd mantais lawn o fesurau Llywodraeth Lafur Cymru i alluogi hyn ddigwydd.

  • Bydd Llafur Cymru yn grymuso awdurdodau lleol i bennu’r model mwyaf priodol ar gyfer gwasanaethau bysiau, a hoffem weld ein gwasanaethau bysiau yn gwella o ganlyniad i’r fenter hon.
  • Byddwn yn croesawu ailgyflwyno masnachfreinio a’n hawdurdod lleol yn defnyddio’r grymoedd i redeg gwasanaethau bysiau.
  • Hoffem i wasanaethau bysiau gysylltu â gwasanaethau trenau allweddol fel y gall pobl barhau â’u siwrneiau yn rhwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus.
  • Cefnogwn ddatblygiad pellach o gynlluniau parcio a theithio, gan gynnwys Parcio a Theithio Gaerwen.
  • Croesawn dreialau Llywodraeth Cymru o drafnidiaeth sy’n ateb y galw ar y rhwydwaith bysiau, er ni ddylai gwasanaethau bysiau ar alw ddisodli’r amserlen a llwybrau rheolaidd.
  • Hoffem weld rhwydwaith bysiau cenedlaethol TrawsCymru yn ymestyn i Ynys Môn.
  • Byddwn yn annog y cyhoedd i gyfrannu at ymgynghoriad Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor i’w ddefnyddio i wella llwybrau cerdded a beicio Teithio Llesol ar ein hynys.

LÔN LAS MÔN (LLWYBR AML-DDEFNYDD GAERWEN-AMLWCH)

ADDEWID Cefnogwn y prosiect Lôn Las Môn sy’n cynnwys creu llwybr aml-ddefnydd rhwng Gaerwen ac Amlwch ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth ac at ddefnydd cadeiriau olwyn.

  • Credwn er y byddai adfer Lein Amlwch fel rheilffordd yn hynod werthfawr, mae’n annhebygol iawn o ddigwydd oherwydd y gost uchel, oddeutu £160-£340 miliwn.
  • Felly, cefnogwn ymgyrch Lôn Las Môn i ddatblygu’r llwybr fel llwybr aml-ddefnydd ar gyfer beicio, cerdded, rhedeg, defnydd cadeiriau olwyn, marchogaeth, etc.
  • Byddai’r prosiect yn hyrwyddo opsiynau ymarfer corff iach i breswylwyr o bob oedran a gallu ac yn rhoi opsiwn teithio iach a diogel i breswylwyr Amlwch, Llanerchymedd, Llangefni a Gaerwen er mwyn ceisio gwaith ac addysg.
  • Yn ogystal, cefnogwn ddefnydd y prosiect hwn i ysgogi twristiaeth werdd a busnesau lleol, megis caffis a llogi beiciau.
  • Galwn ar ein Cyngor Sir i geisio prydles hirdymor o’r lein i alluogi’r datblygiad.

AMAETHYDDIAETH A FFERMIO

ADDEWID Bydd ffermwyr Ynys Môn yn cael eu gwobrwyo am gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac am eu cyfraniad at iechyd a llesiant ein cenedl.

  • Cefnogwn fwriad Llywodraeth Lafur Cymru i gyflwyno Cynllun Ffermio Cynaliadwy a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am wella pridd, aer, dŵr, cynefinoedd etc.
  • Hoffem weld digon o gyngor a chymorth i ffermwyr a busnesau ffermio wrth iddynt symud at arferion mwy cynaliadwy.
  • Cefnogwn ddiogelwch telerau ac amodau gweithwyr amaethyddol drwy gynnal a chadw’r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol i Gymru.
  • Hoffem i hawliau ffermwyr sy’n denantiaid gael eu cryfhau ymhellach, a gwella eu mynediad at gymorth.
  • Cefnogwn Barth Perygl Nitradau Cymru gyfan oherwydd ansawdd dŵr annerbyniol cymaint o afonydd a ffrydiau.

YR IAITH GYMRAEG A DIWYLLIANT

ADDEWID Cefnogwn gamau gweithredu i ddiogelu iaith a diwylliant Cymru a hoffem weld digon o fuddsoddiad yn sgiliau iaith Gymraeg i athrawon ac yn economïau gwledig i fodloni’r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

  • Cefnogwn gynnydd parhaus tuag at darged Llywodraeth Lafur Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Dros y 5 mlynedd nesaf, hoffem weld datblygiad pellach a hoffem gyflawni’r targedau o ran y nifer o ddysgwyr iaith gyntaf Gymraeg a nodir yn Strategaeth Iaith Gymraeg y Cyngor Sir 2016-21
  • Croesawn yr adroddiad Menter Iaith diweddar, Proffil Iaith: Darlun o sefyllfa’r Gymraeg ar Ynys Môn ac rydym yn cytuno â’i argymhellion o ran yr angen am gyfleusterau trochi blynyddoedd cynnar a rhagor o gymorth i rieni.
  • Byddwn yn cefnogi targedau mwy ymestynnol o ran y canran o ddisgyblion sy’n cael asesiad Cymraeg iaith gyntaf.
  • Byddwn yn cefnogi mesurau i gynyddu’r canran o siaradwyr Cymraeg i 70% erbyn 2026.
  • Croesawn benderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru i ddarparu £1.3 miliwn o gyllid i gynorthwyo’r Urdd i adfer ac ailadeiladu.
  • Byddwn yn cefnogi polisïau tai priodol sy’n cynorthwyo i ddiogelu’r iaith Gymraeg.

YMDRIN Â PHRYDERON POBL IFANC

ADDEWID Byddwn yn rhoi blaenoriaeth uchel i wrando ar bryderon pobl ifanc a gweithredu i fynd i’r afael â nhw.

  • Rydym yn cefnogi’n gryf ‘gwarant i bobl ifanc’ Llafur Cymru o le mewn gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth.
  • Cefnogwn gyllid gwell i ddarpariaeth iechyd meddwl mewn ysgolion ac ar gyfer prosiectau ar yr ynys sy’n cefnogi iechyd meddwl a chorfforol, megis Lôn Las Môn a Gerddi Haulfre yn Llangoed.
  • Hoffem weld cynnydd yn y tai sy’n wirioneddol fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf a mwy o dai cymdeithasol, gan gynnwys tai cyngor.
  • Hoffem ragor o gyfleoedd gwaith ar yr ynys, gan gynnwys drwy brosiectau mawr, fel nad oes rhaid i bobl ifanc symud i ffwrdd.
  • Cefnogwn y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a byddwn yn annog ysgolion i addysgu pobl ifanc am gyd-destun hanesyddol hiliaeth.

CYNIGION CAERGYBI AC AMLWCH

PARC NATUR PENRHOS

ADDEWID Cydnabyddwn bwysigrwydd coetiroedd i bobl leol ac felly rydym yn cefnogi cadw mynediad cyhoeddus drwyddo draw, gyda’r gwaith rheoli yn dod i ran y grŵp cymunedol lleol.

  • Cefnogwn gadw mynediad cyhoeddus drwy Barc Natur Penrhos, gyda’r gwaith rheoli yn dod i ran y grŵp cymunedol lleol.
  • Er ein bod yn cydnabod y byddai’r prosiect Land & Lakes/Bluestone yn creu swyddi, mae ein haelodau wedi casglu bod colled barhaol mynediad cyhoeddus at y coetir unigryw a phoblogaidd hwn yn gorbwyso’r fantais honno.
  • Wedi dweud hynny, cydnabyddwn fod caniatâd cynllunio amlinellol eisoes mewn lle ac felly efallai y bydd yn anodd ildio’r prosiect, sy’n dal i gael ei adolygu.
  • Os bydd y datblygiad yn mynd rhagddo:
  • Byddwn yn galw ar y datblygwr i gadw mwy o dir sydd â mynediad cyhoeddus ym Mharc Natur Penrhos drwy wneud defnydd o’r safle Cae Glas, fel y cynigwyd yn wreiddiol.
  • Byddwn yn ymgyrchu i bobl leol gael swyddi, osgoi’r defnydd o gontractau dim oriau, a chyflogau ar y Cyflog Byw go iawn, gyda hawliau am dâl gwyliau a salwch.
  • Byddwn yn ymgyrchu i gyflawni’r addewid i greu gwarchodfa natur reoledig yng Nghae Glas.

CYNLLUN AILDDATBLYGU GLANNAU CAERGYBI

ADDEWID Cefnogwn y cynllun ailddatblygu diwygiedig, sy’n cynnig gwelliannau sylweddol mewn cymhariaeth â’r cynigion gwreiddiol, ac yn galw ar y Cyngor Sir a’r Cyngor Tref i weithio’n agos â’i gilydd i uchafu’r buddion i bobl leol.

  • Rydym yn cefnogi’r cynigion cyfredol, sy’n llawer gwell na’r cynllun gwreiddiol.
  • Croesawn y gostyngiad yn y raddfa wreiddiol.
  • Croesawn: cynnal a chadw golygfeydd yn well; newid i barcio dan ddaear yn bennaf; yr amffitheatr newydd, cilfach teras ac arcêd / marchnad dan do; y cymysgedd gwell o dai; a throi’r Soldier’s Point House a Phorth-Y-Felin House yn rhandai preswyl.
  • Galwn ar y Cyngor Sir i weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Tref a phartneriaid eraill i sicrhau bod y buddion cymdeithasol-economaidd posibl yn cael eu gwireddu.
  • Hoffem i gyfran deg o’r tai gael eu cadw ar gyfer pobl leol a’u bod yn fforddiadwy iddynt.
  • Yn ogystal, hoffem weld cymorth a mynediad i bobl ifanc sy’n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr.

PORTHLADD CAERGYBI – PORTHLADD RHYDD?

ADDEWID Byddwn yn cefnogi creu porthladd rhydd os yw parhad yr hawliau cyflogaeth i gyd o fewn y porthladd rhydd yn warantedig, os oes amddiffyniadau amgylcheddol llawn mewn lle, y darperir lefel briodol o gyllid, ac os yw gweithgareddau troseddol wedi’u gwahardd.

  • Cydnabyddwn y gallai porthladd rhydd yng Nghaergybi greu cyfleoedd gwaith, er bod tystiolaeth o fuddion economaidd porthladdoedd rhydd yn gymysg.
  • Gyda hyn mewn cof, byddem yn cefnogi cynnig am borthladd rhydd os bodlonir yr amodau canlynol: (a) hawliau cyflogaeth i gyd yn cael eu cynnal yn y porthladd rhydd, (b) amddiffyniadau amgylcheddol llawn mewn lle, (c) lefel briodol o gyllid yn cael ei darparu, sy’n gyfwerth â phorthladdoedd rhydd Lloegr a (d) gweithgareddau troseddol megis ariannu terfysgaeth, gwyngalchu arian a throseddu cyfundrefnol yn cael eu gwahardd.
Link to Instagram Link to Twitter Link to YouTube Link to Facebook Link to LinkedIn Link to Snapchat Close Fax Website Location Phone Email Calendar Building Search